Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mehefin 2020
Amser:
13.00 -
16.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6356
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Gareth Davies, Undeb Rygbi Cymru Brian Davies, Chwaraeon Cymru Jonathan Ford, Cymdeithas Bêl-droed Cymru Dr Kelly Mackintosh, Prifysgol Abertawe Councillor Huw Thomas, Welsh Local Government Association (WLGA) Marcus Kingwell, EMD UK: Y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer ymarfer corff grŵp |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Chwaraeon, Panel Un
2.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn ynghylch Covid-19 a'i effaith ar chwaraeon yng Nghymru:
Brian Davies, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru
Y Cynghorydd Huw Thomas, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr
Dr Kelly Mackintosh, Cyfarwyddwr Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Abertawe
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Chwaraeon, Panel Dau
3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am effaith Covid-19 ar chwaraeon yng Nghymru:
Jonathan Ford, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Gareth Davies, Cadeirydd, Undeb Rygbi Cymru
Marcus Kingwell, Prif Swyddog Gweithredol, EMD UK: Y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer ymarfer corff grŵp
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5 Ôl-drafodaeth breifat
Yn ystod yr ôl-drafodaeth breifat cytunodd yr Aelodau ar:
· ysgrifennu adroddiad byr ar effaith COVID-19 ar chwaraeon;
· ysgrifennu at Bauer Media ynghylch yr ail-frandio arfaethedig o Orsaf Radio Sain Abertawe;
· ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21; a
· gofyn am Ddadl yn y Cyfarfod Llawn i drafod yr adroddiad ar 'Effaith argyfwng COVID-19 ar sector y celfyddydau' gan y Pwyllgor Busnes.